Llety
Ein llety ar y safle
A ydych yn ymweld â Wrecsam ar gyfer cyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad? Mae yna amrywiaeth o lefydd aros ystafell-yn-unig neu wely a brecwast ar gael ar ein safle yn Wrecsam, am brisiau cystadleuol iawn.
Gellir llogi ein 500 o ystafelloedd gwely neuaddau preswyl yn ystod gwyliau haf y Brifysgol. Dim ond ychydig o letyau sydd ar gael yn ystod y tymor, fodd bynnag cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i lety ar eich cyfer.
Mae ein llety ar gael gydag en-suite neu gyda chyfleusterau ystafell ymolchi ar y cyd. Gallwch gael golwg ar ystafell en-suite ar ein rhith-daith. Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ar gael yn yr ystafelloedd. Mae yna fynediad i’r rhyngrwyd ym mhob man, a gall dirprwyon ddefnyddio ein campfa ar-y-safle am ffi ychwanegol bychan. Mae rhai o’r ystafelloedd wedi eu haddasu ar gyfer anghenion pobl gydag anableddau. Ceir llefydd parcio am ddim ar y safle i gyd.
Os ydych yn dymuno trefnu cynhadledd breswyl, neu’n ddirprwy unigol sy’n chwilio am rywle i aros, cysylltwch â thîm ein Gwasanaethau Cynadledda a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Gwestai
Yn ogystal â llety’r Brifysgol, mae yna lawer o lefydd eraill i aros yn Wrecsam. Yn ogystal â gwesty 4 seren y Ramada Plaza a’r Premier Inn newydd, sydd ill dau o fewn pellter cerdded i’r campws, mae yna nifer o westai a llefydd aros rhesymol y buasem yn hapus i’w hargymell.
Siaradwch gyda ni am y prisiau ffafriol sydd gennym gyda sawl sefydliad, gan gynnwys gwestai’r Ramada Plaza a’r Premier Inn.
Lleoliad delfrydol
Mae ein llety wedi ei leoli yng nghanol y campws ac felly’n gyfleus ar gyfer eich cynhadledd neu ddigwyddiad yn y Brifysgol, a dim ond 10 munud i ffwrdd ar droed o ganol y dref.
Mae Wrecsam ei hun yn agos at gefn gwlad ac arfordir Gogledd Cymru, ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig a’r Waun gerllaw, ac yn ddim ond 20 munud o ddinas Caer, sy’n golygu fod yna ddigon o opsiynau ar gyfer tripiau hamdden pe hoffech gynnig hyn i’ch dirprwyon.
Ar y campws:
- 500 ystafell
- Dirprwyon unigol
- Cynadleddau preswyl
- Opsiwn i gynnwys prydau
- Ystafelloedd hygyrch ar gael
- Diogelwch 24 awr ar y safle
- Wifi am ddim
- Parcio am ddim
- Agos at rwydweithiau cludiant
Oddi ar y campws:
- Gwestai a llefydd aros
- O fewn pellter cerdded
- Prisiau ffafriol ar gael
Dod o hyd i ni:
