Canolfan y Diwydiannau Creadigol
Cyfleusterau Cynhyrchu Teledu a Ffilm o Safon
Wedi’i hagor yn 2011, mae Canolfan y Diwydiannau Creadigol yn adeilad modern, amgylcheddol-gynaliadwy sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y diwydiannau creadigol i ddatblygiad economaidd yr ardal.
Wedi’i lleoli ar gampws Wrecsam, mae’r ganolfan yn cynnig cyfleusterau cynhyrchu o safon, heb y costau uchel sy’n gysylltiedig â stiwdios yn Manceinion, Birmingham neu Lundain.
Yn ganolfan ar gyfer datblygu diwylliant diwydiannau creadigol, mae’r ganolfan yn ysgogi datblygiad busnesau preifat a deilliedig sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol, yn ogystal â hybu mwy o gydweithrediad rhyngddisgyblaethol yn ymwneud â phynciau mor amrywiol a chelf a dylunio, cyfrifiadura a pheirianneg.
Mae’r ganolfan yn gartref i BBC Cymru Wales yn Wrecsam, gan atgyfnerthu presenoldeb y BBC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a darparu cyfleusterau cynhyrchu newydd ar gyfer ei staff, gwesteion a chyfranwyr.
Mae’r stiwdio yn ofod 105 m2 (1134 tr2) gyda meinciau cludadwy ar gyfer cynulleidfa o hyd at 46, sy’n addas ar gyfer setiau bychain a chanolig eu maint gyda chynulleidfa, neu setiau mwy heb gynulleidfa. Mae’r stiwdio hefyd yn cynnwys sgrîn werdd grom uchder-dwbwl o amgylch dwy ochr i’r stiwdio. Mae’r stiwdio ar gael i’w llogi heb gyfleusterau neu gyda goleuo a chamerâu. Gallwch gael golwg o’i chwmpas ar ein rhith-daith yma.
Mae’r ystafell ôl-gynhyrchu yn cynnwys system darseinydd sain amgylchynol 5.1, arwynebau rheoli sain a graddio lliw, ac yn cefnogi prosiectau mewn Final Cut Pro 7, Final Cut Pro X neu Adobe Premiere CS6. Gallwn hefyd ddarparu cyfleuster recordio trosleisio, i’r rheiny sy’n dymuno ychwanegu deialog neu naratif wrth ôl-gynhyrchu.
Mae’r atriwm helaeth gyda golau naturiol yn edrych allan dros lawntiau’r Brifysgol, ac yn lleoliad gwych ar gyfer derbyniadau ffurfiol a chyflwyniadau anffurfiol, yn ogystal â bod yn lle gwych i ymlacio dros baned. Mae’r ystafelloedd trafod gerllaw yn ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau bychain a digwyddiadau llai ffurfiol sy’n galw am leoliad arloesol.
Lleoliad celf unigryw
Mae waliau’r atriwm helaeth wedi eu haddurno gan furlun Dawns Bywyd yr artist leol Mildred Eldridge, a ystyrir fel ei gwaith pwysicaf. Mae’r saith panel mawr yn archwilio thema ymddieithriad dyn oddi wrth natur, ac yn cynnwys golygfeydd o gefn gwlad a glan y môr, gydag adar, anfeiliaid a phlanhigion.
Ar gip:
- Stiwdio deledu uchder dwbwl
- Seddi i hyd at 46
- Oriel uwchben y stiwdio deledu
- Atriwm helaeth â golau naturiol
- Ystafelloedd trafod bychan
- Gweithdy 3D
- Stiwdio ddylunio hyblyg
- Stiwdios ôl-gynhyrchu
- Ystafelloedd trosleisio
- Stiwdio BBC
- Wifi am ddim
- Parcio am ddim
Addas ar gyfer:
- Trafodaethau
- Cyfweliadau
- Cyngherddau llai
- Brecwastau busnes
- Digwyddiadau rhwydweithio
- Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol