Wrecsam
Lleoliadau arobryn ym mhrif dref Gogledd Cymru
Croeso i bortffolio arobryn Prifysgol Glyndŵr Wrecsam o leoliadau cynadledda a digwyddiadau yn Wrecsam.
Mae gan ein prif gampws gyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf, yn amrywio o theatrau mawr i ystafelloedd cyfarfod bychain, gan ein galluogi i ddarparu ar gyfer busnesau o bob maint a digwyddiadau o bob math.
Gyda seddi ar gyfer hyd at 880 o ddirprwyon, nod ein portffolio yw cynnig cyfleusterau cynadledda a chyfarfod fforddiadwy, heb gyfaddawdu ar ansawdd.
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys dros 70 o ddarlithfeydd, ystafelloedd seminar a chynadleddfeydd, Canolfan y Diwydiannau Creadigol £5m, oriel gelf, Neuadd hanesyddol William Aston – lleoliad theatr a chyngherddau mwyaf Wrecsam – a Chanolfan Catrin Finch, ein lleoliad cynadledda a pherfformiadau o’r radd flaenaf gwerth £3m.
Mae gennym brofiad helaeth o drefnu a chynnal pob math o gynadleddau a digwyddiadau gydol y flwyddyn, o gyfarfod cyffredinol blynyddol a sioeau gwobrwyo i arddangosfeydd a chynadleddau i’r wasg.
O’r eiliad y byddwch yn cysylltu â ni, bydd ein tîm cynadledda a digwyddiadau yn gyfrifol am drefnu eich digwyddiad ac yn sicrhau y bydd yn achlysur i’w gofio.
Yn ogystal â’n bwytai a’n caffis, mae gennym dîm arlwyo ar y safle yn barod i weini ystod o fwyd a diod ffres yn uniongyrchol i’ch cyfarfod.
Mae ein lleoliadau i gyd yn cynnwys yr offer clyweledol diweddaraf, a gall ein tîm Gwasanaethau Technegol Clyweledol fod wrth law gydol eich digwyddiad i sicrhau fod popeth yn mynd yn esmwyth.
Os ydych yn bwriadu trefnu cynhadledd breswyl, mae yna amrywiaeth o letyau ystafell-yn-unig neu wely a brecwast ar gael ar ein campws yn Wrecsam.
Mae gan ein safle yn Wrecsam gysylltiadau ffordd a rheilffordd rhagorol gyda gweddill y DU – dim ond 45 munud i ffwrdd o Lerpwl ac awr o Fanceinion. Mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn 10 i ffwrdd ar droed, ac ar gyfer dirprwyon sy’n teithio mewn car, mae yna ddigonedd o lefydd parcio di-dâl ar y safle.
Ychydig o hanes
Agorwyd prif adeilad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn swyddogol yn 1953. Dylanwadwyd ei gynllun ymarferol i raddau helaeth gan y posibilrwydd o wrthdaro pellach ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, gyda byncer niwclear o dan yr adeilad, a’r coridorau a’r drysau i gyd wedi’u cynllunio fel y gellid troi’r adeilad yn ysbyty pe bai angen.
Cynlluniwyd y teils a ddefnyddiwyd ym mhrif gyntedd yr adeilad yn arbennig gan Peggy Angus (1904 – 1993), un o geramegyddion gorau yr 20fed Ganrif. Wedi’u gosod ddiwedd y 1950au, ac yn dal yno heddiw, mae’r teils rhestredig Graddfa II yn gorchuddio dwy wal yn y dderbynfa, gan ymestyn dau lawr i fyny, gyda thema Gymreig gref sy’n cynnwys dreigiau, cennin a mynyddoedd.
Ar gip:
- Hyd at 880 o ddirprwyon
- Cyfleusterau pwrpasol
- Ystafelloedd cyfarfod
- Mannau trafod
- Darlithfeydd
- Arlwyo ar y safle
- Tîm clyweledol pwrpasol
- Llety ar y safle
- Wifi am ddim
- Parcio am ddim
Addas ar gyfer:
- Cynadleddau
- Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Seremonïau Gwobrwyo
- Cyrsiau hyfforddi
- Brecwastau busnes
- Digwyddiadau rhwydweithio
Dod o hyd i ni:
