Ystafelloedd Cyfarfod
Llefydd cyfarfod amlbwrpas
Mae ein cyfres amlbwrpas o ystafelloedd cyfarfod yn cynnwys dwy ystafell seminar a thair darlithfa, gydag un ohonynt yn dyblu fel labordy cyfrifiadurol. Mae lle i hyd at 14 o ddirprwyon yn yr ystafelloedd seminar, a hyd at 35 yn y darlithfeydd, gydag amrywiaeth o lunweddau i ddewis o’u plith. Yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd llai neu sesiynau hyfforddi, gellir eu defnyddio hefyd fel ystafelloedd trafod ar gyfer cynadleddau neu ddigwyddiadau mwy eraill.
Mae gan bob ystafell ei system glyweledol integredig ei hun, â rhai ystafelloedd yn cynnwys byrddau clyfar, ac mae cymorth technegol ar gael ar y safle i ddelio gydag unrhyw drafferthion a allai godi. Gall dirprwyon hefyd fanteisio ar y cyfleusterau busnes llawn a’r wifi am ddim sydd ar gael.
Mae pob ystafell yn gwbl hygyrch, ac yn manteisio ar olau naturiol a golygfeydd gwych o’n tiroedd deiliog.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
---|---|---|---|---|---|---|---|
Theatr | Sgwâr Pantiog | Siâp-U | Ystafell Ddosbarth | Cabaret | Ystafell Fwrdd | Gwledd | |
Ystafell Seminar 1 | 14 | - | - | 14 | 14 | 12 | 12 |
Ystafell Seminar 2 | 14 | - | - | 14 | 14 | 12 | 12 |
Darlithfa 1 (Labordy PC) |
- | - | - | - | - | 12 | - |
Darlithfa 2 | 35 | 20 | 20 | 35 | 35 | 20 | 30 |
Darlithfa 2 | 35 | 20 | 20 | 35 | 35 | 20 | 30 |
Ar gip:
- Hyd at 35 o ddirprwyon
- Ystafell Seminar
- Darlithfeydd
- Labordy cyfrifiadurol
- Golygfeydd gwych
- Amrywiaeth o lunweddau
- Systemau clyweledol integredig
- Byrddau Clyfar
- Cymorth technegol ar gael
- Cwbl hygyrch
- Wifi am ddim
- Parcio am ddim
Addas ar gyfer:
- Cyfarfodydd
- Sesiynau hyfforddi
- Sesiynau trafod
- Gweithdai
- Cyflwyniadau
Dod o hyd i ni:
