Ystafell Fwrdd
Ystafell fach gyda golygfa fawr
Mae lle i hyd at wyth o ddirprwyon eistedd o gwmpas y bwrdd yn yr Ystafell Fwrdd, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd llai, cyfarfodydd bwrdd a chiniawau gwaith. Yn ystafell olau â phob cyfleuster, mae ganddi ddigonedd o olau naturiol a golygfeydd trawiadol o’n tiroedd deiliog ac Aber Afon Dyfrdwy, ac ar ddiwrnod clir gallwch weld yr holl ffordd draw i Lerpwl.
Gellir dod ag offer clyweledol i’r neuadd os oes angen, a gall dirprwyon hefyd elwa o wifi am ddim a chyfleusterau canolfan fusnes llawn.
Os oes angen lluniaeth arnoch, gallwn drefnu i de, coffi, bisgedi a phlateidiau o frechdanau a ffrwythau gael eu danfon i’r ystafell.