Ystafell Fwrdd
Ystafell helaeth gyda golygfa wych
Yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau corfforaethol llai, mae’r Ystafell Fwrdd wedi’i lleoli yn nhu blaen yr adeilad, ar y llawr cyntaf. Mae gan y wal allanol ffenestri o’r llawr i’r nenfwd sy’n llenwi’r ystafell â golau naturiol, gyda golygfeydd gwych dros gefn gwlad Sir Ddinbych.
Gydag amrywiaeth o weddluniau ar gael, mae lle i hyd at 25 o bobl o gwmpas y bwrdd yn yr ystafell helaeth yma, neu 50 ar gyfer cyflwyniad. Mae yna ystafelloedd trafod llai gerllaw, gan wneud hwn yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynadleddau neu sesiynau hyfforddi.
Mae’r man mawr agored wrth ymyl yr ystafell yn ddelfrydol ar gyfer gweini te a choffi, neu fwffe bys a bawd wedi’i baratoi gan ein tîm arlwyo, sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi na’ch dirprwyon adael yr ystafell.
Mae ganddi offer clyweledol integredig o’r radd flaenaf, ac mae cyfleusterau canolfan fusnes llawn, gan gynnwys wifi am ddim, ar gael.
Mae yna lifft i’r Ystafell Fwrdd, sy’n gwbl hygyrch. Gallwch fynd ar rith-daith o’r ystafell yma.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
---|---|---|---|---|---|---|
Theatr | Sgwâr Pantiog | Siâp-U | Ystafell Ddosbarth | Cabaret | Ystafell Fwrdd | |
Ystafell Fwrdd | 50 | 25 | 22 | 25 | 30 | 25 |
Ar gip:
- Lle i hyd at 50
- Ystafell helaeth
- Golau naturiol
- Amrywiaeth o weddluniau
- Ystafell ar gyfer lluniaeth
- Cwbl hygyrch
- System glyweledol integredig
- Cyfleusterau busnes llawn
- Wifi am ddim
- Parcio am ddim
Addas ar gyfer:
- Cyfarfodydd
- Sesiynau hyfforddi
- Seminarau
- Cynadleddau
- Cyflwyniadau
Dod o hyd i ni:
