Llety yn Llanelwy
Gwestai a llefydd aros
A ydych yn ymweld â Llanelwy ar gyfer cyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad? Pe hoffech hi neu eich dirprwyon aros dros nos, neu os ydych yn bwriadu trefnu cynhadledd preswyl, mae yna lawer o opsiynau llety, yn y ddinas a gerllaw, y gallwn eu hargymell.
Llety Prifysgol Glyndŵr
Os ydych yn fodlon teithio ychydig pellach, mae yna amrywiaeth o letyau ystafell yn unig neu wely a brecwast ar gael yn ystod gwyliau haf y Brifysgol yn neuaddau preswyl ein safleoedd yn Wrecsam (40 munud i ffwrdd) a Llaneurgain (20 munud i ffwrdd).
Am ymholiadau llety, cysylltwch â’n tîm Cynadleddau a Digwyddiadau, a fydd yn hapus i helpu.
Lleoliad delfrydol
Mae Llanelwy yn lleoliad delfrydol, yng nghanol cefn gwlad Sir Ddinbych, ac yn agos iawn hefyd at arfordir trawiadol Gogledd Cymru. Gyda llefydd gwych i ymweld â nhw gerllaw, o drefi marchnad prysur i gestyll hanesyddol, mae yna ddigon o opsiynau ar gyfer tripiau hamdden pe hoffech gynnig hyn i’ch dirprwyon.