Canolfan Arloesi
Cymorth hyblyg ar gyfer busnesau newydd
Yn ogystal â’i rôl fel canolfan ymchwil a chyfleusterau cynadledda, mae Prifysgol Glyndŵr Llanelwy hefyd yn cynnwys y Ganolfan Arloesi, canolfan deor busnes sy’n darparu cefnogaeth i fusnesau cychwynnol neu dechnoleg ifanc.
Mae’r ganolfan yn cynnig nifer o opsiynau llefydd hyblyg, o rith-swyddfeydd a desgiau pwrpasol, i unedau deor, gyda gofod o 550 sg tr i 1500 sg tr. Mae’r unedau hyn yn cynnwys pŵer 3 cham, echdynnu, dŵr, awyr lân a chysylltedd band-eang, gan alluogi cwmnïau uwch-dechnoleg i ymgymryd â datblygu syml, prototeipio a gweithgynhyrchu ar raddfa fechan.
Gall busnesau sydd wedi’u lleoli yma hefyd elwa o sawl gwasanaeth cefnogi, gan gynnwys mynediad drws agored i’r tîm rheoli am gefnogaeth busnes, defnydd o gyfleusterau cynadledda’r safle a digwyddiadau, rhwydweithiau a seminarau penodol.
Mae’r prisiau ar gyfer pob opsiwn yn hollgynhwysol, a’r cyfnod mis o rybudd yn golygu fod tenantiaeth yn risg isel. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd gan y Ganolfan Arloesi i’w gynnig, ewch i wefan Arloesiadau Glyndŵr.
Ar gip:
- Canolfan deor busnes
- Rhith-swyddfeydd
- Desgiau pwrpasol
- Hyd at 1500 troedfedd sgwâr
- Cyfleusterau canolfan fusnes
- Cymorth technegol ar gael
- Pris hollgynhwysol
- Tenantiaeth risg-isel
Addas ar gyfer:
- Busnes technoleg ifanc
- Busnesau cychwynnol
- Ad-leoli
- Lawrfeintio
- Ymestyn
Dod o hyd i ni:
