Digwyddiadau
Mwy na dim ond lleoliad ar gyfer busnesau
Mae ein hystod eang o leoliadau a chyfleusterau yn golygu ein bod yn fwy na dim ond lleoliad ar gyfer busnesau. Rydym yn cynnal pob math o ddigwyddiadau yn rheolaidd, gan amrywio o sioeau gwobrwyo, cystadlaethau dawnsio ac arddangosfeydd i giniawau, derbyniadau, partïon pen-blwydd a gwyliau. Yn ogystal, mae ein tîm profiadol yn arbenigo mewn rheoli digwyddiadau er mwyn sicrhau fod pob digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd.
Felly os ydych yn trefnu digwyddiad, ac yn edrych am leoliad delfrydol, cysylltwch â ni. Gydag amrywiaeth o opsiynau ar ein tri safle, rydym yn siŵr o gael y lleoliad delfrydol ar eich cyfer, beth bynnag fo eich digwyddiad a’ch gofynion.
Bydd ein staff cyfeillgar yn sicrhau fod gennych bopeth sydd arnoch ei angen, boed yn ddigwyddiad ar gyfer dau neu ddau gant o bobl. Os oes angen cymorth technegol arnoch, cefnogaeth blaen tŷ neu staff bar, mae gennym dîm gwych o bobl wrth law i helpu. Mae gennym hefyd dimau arlwyo pwrpasol sy’n coginio amrywiaeth o fwydlenni, yn ogystal â bariau â thrwydded lawn, er mwyn sicrhau fod eich gwesteion yn mwynhau eu hunain.
Enghreifftiau o ddigwyddiadau a gynhelir yn ein lleoliadau:
- Dyddiau gwobrwyo a seremonïau graddio
- Cyngherddau
- Cystadlaethau dawnsio a chorawl
- Ffeiriau priodas
- Arddangosfeydd
- Sioeau
- Pantomeimiau
- Partïon a dathliadau
- Digwyddiadau lles
- Sioeau cŵn
- Digwyddiadau marchogaeth
- A llawer mwy...
Mae Question Time y BBC a gŵyl gerddorol agored Gŵyl Gobaith wedi cael eu cynnal yma, yn ogystal â digwyddiadau blynyddol Focus Wales a Wales Comic Con.
Ar gip:
- Lleoliadau delfrydol ar gyfer eich digwyddiad
- Nid ar gyfer busnesau yn unig
- Tîm o staff profiadol
- Rheoli digwyddiadau
- Cymorth digwyddiadau ar gael
- Arlwyo mewnol
- Bariau â thrwydded lawn
- Parcio am ddim
Delfrydol ar gyfer:
- Dyddiau gwobrwyo
- Cyngherddau a sioeau
- Cystadlaethau
- Ffeiriau ac arddangosfeydd
- Partïon a dathliadau
- Sioeau cŵn
- A llawer mwy...
Dod o Hyd i ni:
