Cynadleddau a digwyddiadau Wrecsam
Lleoliadau arobryn ym ‘mhrifddinas’ Gogledd Cymru
Croeso i bortffolio arobryn Prifysgol Glyndŵr o leoliadau i gynnal cynadledda a digwyddiadau yn Wrecsam. Mae’r dewis o gyfleusterau yn drawiadol ac yn hyblyg, ac mae seddau i hyd at 880 o fynychwyr.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf ar gampws Plas Coch y Brifysgol.
Mae’r portffolio wedi’i lunio i gynnig cyfleusterau fforddiadwy ar gyfer cynadledda a chyfarfodydd heb amharu ar ansawdd.
O’r funud y byddwch yn cysylltu â ni, bydd ein staff cynadledda yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am fynd ati i ddechrau cynllunio eich digwyddiad a byddant yn sicrhau bod yr achlysur yn un i’w gofio.



Prifysgol Glyndwr University