Head divider

Cynadleddau a digwyddiadau Llanelwy

Canolfan fusnes o bwys oddi ar yr A55

Llanelwy with pic 1

Mae OpTIC Glyndŵr yn Llanelwy yn fusnes a chanolfan dechnoleg sydd mewn lleoliad rhagorol ychydig oddi ar yr A55.

Mae’n ymfalchïo mewn canolfan gynadledda llawn offer, bwyty, ystafelloedd cyfarfod, a chysylltedd band eang di-wifr.

Llanelwy with pic 2

Gall sefydliadau allanol logi cyfleusterau modern y ganolfan ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, seminarau, hyfforddiant a chyfarfodydd. P’un a ydych yn cynllunio cyfarfod bychan neu ddigwyddiad mawreddog llawer mwy ei faint, gallwn ddarparu ar gyfer eich gofynion.

Mae OpTIC Glyndŵr yn gartref i nifer o gwmnïau sy’n gweithio ar dechnolegau uwch. Maent yn gallu defnyddio’r cyfleusterau yn effeithiol wrth hyrwyddo eu busnes i ddarpar gwsmeriaid, cyflenwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill.

Porwch drwy’r tudalennau hyn i gael gwybodaeth fanwl am y dewisiadau sydd ar gael i drefnwyr digwyddiadau wrth ddefnyddio OpTIC Glyndŵr.

Os hoffech drafod eich gofynion penodol â ni, mae croeso i chi ein ffonio ar 01745 535201.