Head divider

Addewid i gwsmeriaid

Mae Gwasanaethau Cynadledda Prifysgol Glyndŵr yn gyfrifol am ddarparu’r canlynol i bob cleient cynadledda:

  • cyfleusterau cysurus, llawn offer
  • gwasanaethau cymorth proffesiynol gan staff cyfeillgar a chymwynasgar

Ymholiadau cyffredinol

Mae’r Swyddfa Gynadledda ar agor o ddydd Llun tan ddydd Iau 8:30am tan 5:00pm a dydd Gwener 8:30am tan 4:30pm. Ar adegau eraill, gellir gadael negeseuon ar y peiriant ateb (01978 293565) neu trwy ebostio conference@glyndwr.ac.uk.

Wrth ddelio ag ymholiadau bydd y tîm cynadledda:

  • yn ymateb i bob ymholiad yn gyfeillgar, cwrtais a phroffesiynol
  • yn rhoi ymateb cychwynnol i bob ymholiad ar yr un diwrnod (ble y bo modd), neu eu cofnodi ar gyfer gweithredu o fewn dau ddiwrnod gwaith
  • yn rhoi dyfynbris ysgrifenedig ar gyfer yr ymholiad o fewn 48 awr, ynghyd â thelerau ac amodau archebu clir

Er y caiff ansawdd safonau ein gwasanaeth eu monitro yn fewnol, hoffem ofyn i chi hefyd roi gwybod i ni os na fydd eich ymwneud â’r Swyddfa Gynadledda wedi cwrdd â’r safonau hyn. Cysylltwch â Lynda Powell, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol, ar 01978 293221 neu ebostiwch l.powell@glyndwr.ac.uk

Ein sicrwydd ansawdd

Mae’r Swyddfa Gynadledda ym Mhrifysgol Glyndŵr yn gwbl ymroddedig i sicrhau y bydd eich cynhadledd, seminar neu ddigwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Rydym yn ymrwymo i sicrhau fod pob un o’n cleientiaid yn derbyn ansawdd, gwasanaeth a gofal cwsmeriaid o’r safon uchaf, a hynny o gamau cychwynnol y trefniadau hyd at y digwyddiad ei hun a thu hwnt i’r dadansoddi ar ôl y digwyddiad.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth

Ein nod yw darparu:

  • ymateb ar yr un diwrnod i’ch ymholiad cyntaf
  • dyfynbris ysgrifenedig prydlon o fewn 48 awr, gan roi manylion cywir ac eglur am yr hyn sy’n gynwysedig, ynghyd â thelerau ac amodau archebu clir
  • Cydlynydd Cynadledda a Digwyddiadau penodol i chi er mwyn goruchwylio eich digwyddiad o’r camau dechreuol i ganlyniad llwyddiannus
  • croeso cynnes i’r digwyddiad a chymorth gyda gofynion trafnidiaeth
  • llefydd parcio di-dâl (o fewn cyfyngiadau’r llefydd sydd ar gael)
  • gwasanaethau a mynediad llawn i gleientiaid llai abl
  • cyfleusterau glân a dymunol sy’n cael sylw rheolaidd gydol y dydd
  • ystafell gynadledda o faint priodol, wedi’i pharatoi yn ôl gofynion y trefnydd, gydag uwchdaflunydd, sgrîn, siart troi a bwrdd gwyn ym mhob ystafell gynadledda
  • lletygarwch o ansawdd uchel mewn dewis o leoliadau bwyta, wedi’i drefnu yn ôl anghenion cleientiaid unigol, yn ôl cyfyngiadau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn flaenorol

Bydd yr holl staff mewn gwisg swyddogol gyda bathodyn enw priodol er mwyn i’r cwsmeriaid eu hadnabod yn rhwydd.

Cyflawni ein hamcanion

Rydym yn defnyddio’r canlynol i’n cynorthwyo i sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau:

Holiadur gwerthuso gan gleientiaid

Gofynnir i gleientiaid lenwi ffurflenni gwerthuso cynadleddau, ac mae hyn yn gyfle iddynt roi barn ar bob maes o’r gwasanaeth a ddarperir, yn amrywio o wael iawn i dda iawn. Mae lle yn yr holiadur hefyd ar gyfer sylwadau ac argymhellion.

Adroddiadau gwerthuso misol

Caiff holiaduron gwerthuso gan gleientiaid eu casglu mewn adroddiad misol sy’n rhoi asesiad cyffredinol ar bob maes yn y Gwasanaethau Cynadledda. Mae hyn yn amlygu cryfderau a gwendidau’r gwasanaethau a ddarperir, a byddant hefyd yn dangos a gafodd anghenion y cleient eu bodloni yn llwyddiannus.

Cardiau sylwadau

Mae cardiau i chi adael sylwadau ar gael yn yr holl ystafelloedd cynadledda, er mwyn rhoi cyfle i drefnwyr a mynychwyr cyfarfodydd roi eu barn am yr adran Gwasanaethau Cynadledda.