Cyfleusterau cynadleddau a digwyddiadau Gogledd Cymru
Os ydych yn chwilio am le i gynnal cynhadledd, cyfarfod, arddangosfa neu dderbyniad corfforaethol, gallwn ddarparu’r lleoliad delfrydol i chi.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Cymru, gan fedru darparu ar gyfer cynadleddau sydd â 2 neu 200 o fynychwyr. Rydym ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac mae gennym dimau gwasanaethau technegol ar y safle, mynediad llawn i’r anabl yn ogystal â systemau dolenni clywed.

Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein harlwyo, gan gynnig amrywiaeth o fwydlenni i weddu i bob achlysur gyda phrisiau cystadleuol sy’n addas i bob cyllideb. Caiff cynadleddwyr hefyd ddefnyddio meysydd parcio am ddim.
Mae ein safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain a Llanelwy yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a bydd ein staff ymroddedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn.
Ewch ati i bori drwy’r tudalennau hyn i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig.

Prifysgol Glyndwr University